Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2016

Amser: 09.15 - 13.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3857


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Huw Irranca-Davies AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru

Rhian Williams, Llywodraeth Cymru

Chris Brereton, Llywodraeth Cymru

Sue Bowker, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 533KB) Gweld fel HTML (308KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC. Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ei rhan.

 

2       Sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16 a Rhaglen Waith y Comisiynydd ar gyfer 2016-17

2.1 Holodd y Pwyllgor Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghylch ei hadroddiad blynyddol 2015-16 a'i Rhaglen Waith ar gyfer 2016-17.

 

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5 ac 6

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

4       Sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16 a Rhaglen Waith y Comisiynydd ar gyfer 2016-17. - ystyried y dystiolaeth

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar Adroddiad Blynyddol 2015-16 a'i Rhaglen Waith ar gyfer 2016-17.

 

5       Trafod y rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

5.1 Trafododd y Pwyllgor y rheoliadau drafft i'w gwneud o dan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

6       Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - ystyried y ddogfen ddrafft

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau.

 

7       Bill Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 1 - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a'i swyddogion.

 

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

9       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 1 - ystyried y dystiolaeth

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog a'i swyddogion.

 

10   Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - Ystyried yr adroddiad drafft

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytuno arno.

 

11   Ymchwiliad i recriwtio meddygol - paratoi i glywed tystiolaeth

11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad ar recriwtio staff meddygol ymhellach, a chytunodd i estyn gwahoddiad i randdeiliaid fod yn bresennol yn sesiynau casglu tystiolaeth y gwanwyn.